Publisher's Synopsis
Mae cadw gwenyn yn ddiddordeb hynod ddiddorol a gwerth chweil gyda digonedd i'w ddysgu, ond i'r rhai sy'n dechrau cadw gwenyn o'r newydd, mae dod â phopeth ynghyd yn gallu bod yn anodd. Yn y llyfr hwn, bydd Lynfa Davies, NDB, yn eich tywys drwy flwyddyn o gadw gwenyn fesul mis. Bydd yn amlinellu'r hyn y dylech ei ddisgwyl bob mis, a'r prif dasgau angenrheidiol gyda'r nod o sicrhau eich bod chi gam o flaen eich gwenyn.
Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sydd wedi dechrau cadw gwenyn ers ychydig flynyddoedd, a bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn mae eich gwenyn yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i'w rheoli. O archwiliadau hyd at fwydo a rheoli clefydau, bydd y canllaw hwn yn rhoi'r hyder i chi ofalu am eich gwenyn yn dda a'u cadw'n iach, ac efallai y byddant yn eich gwobrwyo gydag ychydig o fêl.